Apeliadau

Download as PDFDownload as PDF

Apeliadau

Rhoddir gwybod i Gofrestrwyr am pam y gwrthodwyd ceisiadau am enw parth gan Bwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru. Cyfrifoldeb y Cofrestrydd yw sicrhau ei fod yn trosglwyddo'r wybodaeth hon i'w gwsmer.

Os teimlir bod y penderfyniad i wrthod yn un anghyfiawn, ac y cyflwynwyd yr holl wybodaeth fanwl berthnasol eisoes gyda'r cais am enw parth templed, yna gellir cyflwyno apêl. Dylai'r Cofrestrydd dan sylw anfon yr apêl hon, ar ran ei gwsmer, i domains@jisc.ac.uk gyda manylion llawn ynglŷn â pham y dylid bod wedi caniatáu'r cais am enw parth. Caiff yr apêl ei hystyried ac anfonir ymateb at y Cofrestrydd.